Dwyt ti'm yn cofio Macsen, Does neb yn ei nabod o; Mae mil a chwe chant o flynyddoedd Yn amser rhy hir i'r cof; Pan aeth Magnus Maximus o Gymru Yn y flwyddyn tri-chant-wyth-tri, A'n gadael yn genedl gyfan A heddiw: wele ni!
Ry'n ni yma o hyd, Ry'n ni yma o hyd, Er gwaetha pawb a phopeth, Er gwaetha pawb a phopeth Ry'n ni yma o hyd. Ry'n ni yma o hyd, Er gwaetha pawb a phopeth, Er gwaetha pawb a phopeth Er gwaetha pawb a phopeth Ry'n ni yma o hyd.
Chwythed y gwynt o'r Dwyrain, Rhued y storm o'r môr, Hollted y mellt yr wybren A gwaedded y daran encôr, Llifed dagrau'r gwangalon A llyfed y taeog y llawr Er dued yw'r fagddu o'n cwmpas Ry'n ni'n barod am doriad y wawr!
Ry'n ni yma o hyd, Ry'n ni yma o hyd, Er gwaetha pawb a phopeth, Er gwaetha pawb a phopeth Ry'n ni yma o hyd. Ry'n ni yma o hyd, Er gwaetha pawb a phopeth, Er gwaetha pawb a phopeth Er gwaetha pawb a phopeth Ry'n ni yma o hyd.
Cofiwn i Facsen Wledig Adael ein gwlad yn un darn A bloeddiwn gerbron y gwledydd 'Mi fyddwn yma tan Ddydd y Farn!' Er gwaetha pob Dic Sion Dafydd, Er gwaetha 'rhen Fagi a'i chriw Byddwn yma hyd ddiwedd amser A bydd yr iaith Gymraeg yn fyw!